Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 13 Tachwedd 2018
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Y Dull Cenedlaethol tua Dysgu Proffesiynol (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Diwygio Trefniadau Llywodraethu a Chyllid Awdurdodau Tân ac Achub (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: Gwella Canlyniadau i Blant: Lleihau'r Angen i Blant fynd i Mewn i Ofal, a Gwaith Grŵp Cynghori'r Gweinidog (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Lles Anifeiliaid (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynlluniau Cyflenwi ar gyfer y Gaeaf
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud)
o Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018
o Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Apelau) (Cymru) 2018
· Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2017-18 (60 munud)
Dydd Mercher 14 Tachwedd 2018
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid (45 munud)
· Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
· Cwestiynau Amserol (20 munud)
· Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
· Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20 (30 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei Ymchwiliad i Baratoadau ar Gyfer Disodli Ffrydiau Cyllido’r Undeb Ewropeaidd yng Nghymru (60 munud)
·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60
munud)
· Dadl fer - Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 20 Tachwedd 2018
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Gwasanaethau Deintyddol (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Symudedd Myfyrwyr Rhyngwladol (30 munud)
· Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Yr Adolygiad o Gyllid Addysg Bellach (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Buddsoddi mewn Ymyrraeth Gynnar a Dulliau Traws-Lywodraeth i fynd i'r afael â Digartrefedd ymysg Pobl Ifanc (30 munud)
· Dadl: Sut rydym yn cyflawni system ynni carbon isel i Gymru? (60 munud)
Dydd Mercher 21 Tachwedd 2018
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau Amserol (20 munud)
· Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Creu'r Diwylliant Cywir (60 munud)
· Dadl ar Ddeiseb P-05-828 Rhagdybiaeth o Blaid Ysgolion Gwledig (60 munud)
· Dadl fer - Rhianon Passmore (Islwyn) (30 munud)
Dydd Mawrth 27 Tachwedd 2018
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Y diweddaraf ar Gynllun Cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol (45 munud)
· Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Y diweddaraf ar Weithredu'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) (45 munud)
· Dadl: "Astudiaeth Ddichonoldeb i Oriel Gelf Gyfoes i Gymru" ac "Astudiaeth Ddichonoldeb i Amgueddfa Chwaraeon i Gymru" (60 munud)
Dydd Mercher 28 Tachwedd 2018
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (45 munud)
· Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau Amserol (20 munud)
· Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
· Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Gwerthu Cymru i'r Byd (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Meithrin Cydnerthedd: Ymchwiliad i Gyllid Heblaw Cyllid Cyhoeddus ar gyfer y Celfyddydau (60 munud)
·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer - Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) (30 munud)